TEITL |
Lansio y gyfran gyntaf o ymgynghoriadau mewn perthynas â gweithredu Rhannau 2,3,4,7 a 11 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
|
DYDDIAD |
6 Tachwedd 2014 |
GAN |
Professor Mark Drakeford AC, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
Bydd y gyfres gyntaf o reoliadau, ynghyd â'r codau ymarfer a'r canllawiau statudol perthnasol sydd i'w gwneud o dan y Ddeddf, ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus o 12 wythnos, gan ddechrau ar 6 Tachwedd eleni, a bydd yn cynnwys y meysydd polisi canlynol:
· Asesiad o’r boblogaeth o dan ran 2 o'r Ddeddf a gweithio mewn partneriaeth o dan ran 6
· Mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan eu defnyddwyr, a'r trydydd sector
· Asesu a chymhwysedd
· Taliadau Uniongyrchol
· Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion
· Byrddau Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
· Byrddau Diogelu Lleol
· Preswyliaeth gyffredin ac anghydfodau ynghylch preswyliaeth gyffredin
Caiff y meysydd polisi hyn eu cynnwys yn rhannau 2, 3, 4, 7 ac 11 o'r Ddeddf a'u cyflwyno mewn pedwar pecyn ymgynghori cysylltiedig. Gallwch weld y pedwar ymgynghoriad drwy wefan Llywodraeth Cymru:
http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/?skip=1&lang=cy
Ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad helaeth hwn a'r gwaith dadansoddi ar ôl yr ymgynghoriad, fy mwriad yw y bydd y rheoliadau hyn yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2015.
Bydd ail gyfres o reoliadau a chodau ymarfer, yn bennaf mewn perthynas â rhannau 5, 6 a 9 o'r Ddeddf, ar gael i ymgynghori arnynt o fis Mai 2015 ymlaen, a'r bwriad yw eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn hwyr yn 2015. Fy mwriad yw gosod y codau ymarfer mewn perthynas â'r gyfres gyntaf gerbron y Cynulliad ar yr un pryd, er mwyn iddynt gael eu gweld ac i gytuno arnynt fel pecyn cydlynol.